Text Box: Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC
 Y Prif Weinidog

 

22 Ionawr 2016

 

Annwyl Brif Weinidog

Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, 2016-17

Diolch ichi am ddod i gyfarfod y Pwyllgor ar 13 Ionawr 2016 i ateb cwestiynau am gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17, yn benodol ynglŷn â’r Gymraeg.

Hoffai’r Pwyllgor dynnu eich sylw at y materion a nodir isod, ac edrychwn ymlaen at gael eich ymateb maes o law.

1. Gwariant a Blaenoriaethu

Mae cyllid ar gyfer y Gymraeg wedi’i ostwng eto yng nghyllideb ddrafft y Llywodraeth, o £27.2 miliwn yn 2015-16 i £25.6 miliwn yn 2016-17. Fel y gwyddoch, mae hyn yn ostyngiad o 5.9% (neu 7.5% mewn termau real).

Mae’r gostyngiad hwn yn fwy amlwg yng nghyd-destun cynnydd cyffredinol mewn cyllid refeniw ar gyfer adrannau Llywodraeth Cymru yn 2016-17; cynnydd o £121 miliwn o’i gymharu â llinell sylfaen 2015-16[1].

Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb clir i gynnal bywiogrwydd y Gymraeg ac annog twf ynddi. Mae’n anodd gweld sut y gellir cyflawni hyn pan mae’r Llywodraeth yn parhau i dynnu cefnogaeth ariannol hanfodol oddi ar y maes hwn. Fel y gwnaethom drafod yn ystod ein cyfarfod diweddar, os bydd y Llywodraeth yn parhau i flaenoriaethu meysydd polisi eraill dros y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau ynghylch y gyllideb, bydd y gwaith o ddatblygu cymdeithas naturiol ddwyieithog yn cael ei effeithio’n andwyol. Dylai gwariant ar yr iaith adlewyrchu’r uchelgais yn y Rhaglen Lywodraethu ar gyfer iaith sy’n ffynnu. Nid ydym o’r farn bod hyn wedi’i gyflawni yn y gyllideb ddrafft. 

Ar y cyfan, mae cyllid penodol ar gyfer rhaglenni ynghylch y Gymraeg yn cynrychioli llai na 0.18% o gyfanswm y cyllid[2] a ddyrennir i adrannau Llywodraeth Cymru yn 2016-17. Roeddem yn synnu, felly, at ddyfnder y toriad, o ystyried bod hwn yn faes gwariant cymharol isel. Rydym hefyd yn pryderu y bydd y toriad cymharol ddwfn hwn yn debygol o gael effaith anghymesur o fawr ar ddyfodol yr iaith.

Rydym yn nodi eich penderfyniad i ddyrannu £1.2 miliwn i liniaru effaith gostyngiadau ar gyllid i’r iaith Gymraeg.

i.             A allwch egluro a fydd hyn yn cael ei gynnwys yn y llinell sylfaen ar gyfer cyllideb ddrafft y flwyddyn nesaf?

Yn fwy cyffredinol, hoffwn gael rhagor o wybodaeth am rhai o’r ffigurau a ddarparwyd yn eich papur am y gyllideb ar gyfer y Gymraeg a’r ffigurau a ddarparwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn ei bapur i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Yn eich papur, rydych yn datgan mai’r llinell wariant yn y gyllideb ar gyfer y Gymraeg yng nghyllideb ddrafft 2016-17 fydd £3,913,000; mae’r Gweinidog yn datgan mai £3,964,000 fydd y llinell wariant hon. Rydych hefyd yn datgan mai’r llinell wariant yn y gyllideb ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg fydd £3,051,000; mae’r Gweinidog yn datgan mai £3,000,000 fydd y llinell wariant hon.

ii.           A allwch egluro pa un o’r dyraniadau hyn sy’n gywir? 

Canolfannau Cymraeg 

Rydym yn nodi penderfyniad y Llywodraeth i ostwng y cyllid ar gyfer rhaglenni fel Cymraeg i Oedolion er mwyn canolbwyntio ar fesurau eraill i gryfhau’r iaith yn y gymuned, yn enwedig sefydlu deg canolfan iaith.

Yn ystod ein cyfarfod, dywedoch wrthym fod trefniadau yn eu lle i’r canolfannau rannu arfer da, a’ch bod yn disgwyl i bob canolfan adrodd yn flynyddol ar ei gynnydd. Rydych wedi cytuno i rannu copi o’r adroddiadau hyn gyda ni, ac rydym yn edrych ymlaen at eu cael.

Cyn hynny, mae gennym ddiddordeb penodol yn y materion a ganlyn:

iii.          y canlyniadau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu disgwyl gan y canolfannau hyn er mwyn cadarnhau a oedd y penderfyniad i ail-flaenoriaethu cyllid yn fuddiol i’r iaith.  

2. Asesiadau Effaith

Rydym yn parhau i bryderu ynghylch yr angen i asesu effaith penderfyniadau cyllidebol ar y Gymraeg yn well ar draws portffolios y Gweinidogion. Gwnaethom godi’r mater hwn gyda chi y llynedd ac, yn eich tystiolaeth ysgrifenedig ddiweddar, dywedoch wrthym fod camau wedi eu cymryd wrth baratoi’r gyllideb ddrafft [2016-17] i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yn briodol. Hefyd, dywedoch wrthym fod y Llywodraeth, wrth ostwng y gyllideb gyffredinol ar gyfer y Gymraeg, wedi ceisio sicrhau nad yw toriadau, lle y maent wedi’u gwneud, yn cael effaith ar yr hyn sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad. Rydym hefyd yn nodi bod canllawiau wedi’u rhoi i bob adran ynghylch defnyddio asesiadau effaith ar yr iaith wrth baratoi eu cyllidebau drafft.

Roeddem, felly, yn siomedig nad oes gwybodaeth yn dal i fod wedi’i darparu am y gwaith a wnaed ar draws adrannau i asesu effaith penderfyniadau cyllido ar yr iaith, canlyniadau’r asesiadau hynny neu sut y maent wedi dylanwadu ar y penderfyniadau cyllido gwahanol. Nid yw’r wybodaeth hon wedi’i chynnwys yn yr Asesiad Effaith Integredig Strategol ychwaith, sydd dim ond yn cyfeirio at y dyraniad ychwanegol o £1.2 miliwn ar gyfer yr iaith a’r effaith gadarnhaol arni sy’n deillio o’r cynnydd cyffredinol mewn cyllid i ysgolion.

Yn ogystal â hyn, roedd eich datganiad ei bod hi’n anodd darparu asesiad cyffredinol o effaith y toriadau yn y gyllideb, er bod gennych asesiadau unigol o’r effaith ar yr iaith o ran polisïau a rhaglenni unigol, yn destun cryn bryder inni.

i.             Rydym yn gofyn am ymrwymiad gennych y bydd asesiadau effaith integredig strategol yn y dyfodol yn cynnwys y wybodaeth a amlinellwyd uchod, yn ogystal ag asesiad o effaith gronnol penderfyniadau cyllido ar y Gymraeg.

ii.           Rydym hefyd yn gofyn am ymrwymiad gennych i gyhoeddi’r holl ddogfennau perthnasol er mwyn hwyluso’r gwaith o graffu arnynt.  

 

3. Bwrw Mlaen

Yn dilyn ein gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft y llynedd, gwnaethom ysgrifennu atoch ynghylch yr angen i weld gwybodaeth fanylach am y dystiolaeth a ddefnyddiwyd wrth ail-flaenoriaethu cyllid o raglenni fel Cymraeg i Oedolion. Rydym hefyd yn gofyn am fwy o wybodaeth am y canlyniadau penodol yr ydych yn eu disgwyl drwy’r ail-flaenoriaethu hwn a’r strategaeth Bwrw Mlaen.

Rydym yn nodi bod Prifysgol Bangor wedi’i chomisiynu gan y Llywodraeth i ymchwilio i’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gymunedol ac mai’r bwriad oedd i’r gwaith hwn gyfrannu at eich dealltwriaeth o lwyddiant rhoi Bwrw Mlaen ar waith. Roeddem yn siomedig nad oeddech hefyd wedi gofyn i’r Brifysgol werthuso effeithiolrwydd rhaglenni a gyllidir gan Lywodraeth Cymru i hwyluso defnydd o’r Gymraeg neu asesu gwerth am arian y rhaglenni hyn.

Rydym yn nodi o’ch tystiolaeth yr oedd Bwrw Mlaen yn gynllun penodol ar gyfer amser penodol a gynlluniwyd i sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer y 10 o ganolfannau iaith sydd wedi’u lleoli’n strategol ledled Cymru. Fodd bynnag, gan fod y llinell wariant yn y gyllideb ar y Gymraeg (sy’n cyllido Bwrw Mlaen) yn wynebu gostyngiad o 25.6% o ran arian parod yn y gyllideb ddrafft:

i.             pa gamau ydych yn eu cymryd i werthuso effaith y gostyngiad hwn, yn enwedig gan nad oedd gwaith ymchwil Prifysgol Bangor yn ystyried gwerth am arian neu effeithiolrwydd rhaglenni a gyllidir gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn?

ii.           a ydych yn bwriadu comisiynu gwaith ymchwil ar wahân ar y mater hwn?

4. Cyllideb Comisiynydd y Gymraeg

Fel rhan o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17, mae Comisiynydd y Gymraeg yn wynebu gostyngiad o £339,000 yn ei chyllideb, neu 10% yn nhermau arian parod. Er bod hyn yn arwyddocaol ynddo’i hun, mae hyd yn oed yn fwy pwysig yng nghyd-destun y gostyngiad mewn blynyddoedd blaenorol; 8% yn 2015-16 a 10% yn 2014-15.

Pan ddaeth y Comisiynydd gerbron y Pwyllgor ddiwedd y llynedd, dywedodd wrthym, ar ôl colli bron i chwarter ei hincwm dros y pedair blynedd diwethaf: “mae toriad arall yn ystod y blynyddoedd nesaf ac yn y flwyddyn nesaf yn mynd i fod, buaswn i’n ei ddweud, yn drychinebus o ran gweithrediad Mesur y Gymraeg.”    

Dywedodd wrthym y bydd y ddwy flynedd nesaf yn “anhygoel o bwysig” o ran gweithrediad y Mesur a’r safonau a fydd yn cael eu cyflwyno drwyddo, yn enwedig gan y bydd tua 250 o gyrff yn dod yn rhan o’r system newydd yn ystod y cyfnod hwnnw.

Rydym yn nodi bod £150,000 ychwanegol wedi’i ddyrannu i swyddfa’r Comisiynydd yn rhan o flwyddyn ariannol 2015-16, ac mai bwriad hyn yw lliniaru’r gostyngiadau i gyllideb 2016-17. Serch hynny, mae’r gostyngiadau cyffredinol yng nghyllid swyddfa’r Comisiynydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn ei gwneud hi’n anodd gweld sut na fydd y gwaith o gyflawni gwaith pwysig ei swyddfa o ran safonau yn cael ei rwystro. 

Fel rhan o’ch tystiolaeth, dywedoch wrthym eich bod yn rhagweld y bydd y £150,000 ychwanegol yn cael ei ddefnyddio yn ystod blwyddyn ariannol 2015-16, oherwydd y bwriad oedd iddo gynorthwyo’r gwaith ychwanegol a oedd i’w wneud ar y safonau. Gwnaethom drafod y mater hwn yn fyr yn ystod y cyfarfod. A allwch gadarnhau:

i.             a oes unrhyw hyblygrwydd yma, o ystyried datganiad y Comisiynydd i ni am bwysigrwydd y ddwy flynedd nesaf wrth weithredu’r Mesur?

ii.           a oes gennych unrhyw gynlluniau i wneud dyraniad ychwanegol tebyg i’r Comisiynydd at y diben hwn yn 2016-17?

5. Addysg

Y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg

Yn dilyn y gwaith o graffu ar gyllideb y llynedd, gwnaethom ysgrifennu atoch i fynegi ein pryderon ynghylch effaith gostyngiadau mewn cyllid ar gyflawni strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru.

Rydym yn nodi bod cyllid ar gyfer y llinell wariant ar y Gymraeg mewn addysg yn cynyddu ychydig gan £82,000 yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-17, ond bod y cynnydd hwn wedi’i gyflawni drwy drosglwyddo £825,000 o linell wariant y Gymraeg. Effaith hyn yw gostyngiad o £743,000. Yn ei thystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid (7 Ionawr 2016), dywedodd y Gweinidog Cyllid mai diben y trosglwyddiad hwn yw datblygu dull mwy strategol o ran caffael iaith ar gyfer grŵp oedran 0-4 oed. Dywedoch wrthym fod y trosglwyddiad yn fater o wahaniaeth gweinyddol, fwy neu lai, a bod y Llywodraeth am sicrhau bod arian yn cael ei ddyrannu i feysydd lle y gellir ei wario yn y modd mwyaf effeithiol.

A allwch ddarparu gwybodaeth am y materion a ganlyn:

i.             sail resymegol trosglwyddo rhwng llinellau gwariant ar y gyllideb ac unrhyw gynlluniau neu fentrau yr effeithir arnynt yn andwyol oherwydd hyn

ii.           y canlyniadau penodol yr ydych yn eu disgwyl o ganlyniad i’r trosglwyddiad i’r llinell wariant ar Gymraeg mewn addysg.

iii.          effaith y gostyngiad o £743,000 yn y llinell wariant ar Gymraeg mewn addysg yn sgil y trosglwyddiad.

Twf

Rydych wedi disgrifio prosiect Twf fel rhaglen gwariant ataliol allweddol a: “p[h]rif ymyriad Llywodraeth Cymru ym maes trosglwyddo iaith o fewn y teulu, y mae arbenigwyr yn ystyried ei fod yn un o ddau faes pwysicaf cynllunio ieithyddol”.

Roeddem yn synnu, felly, i weld bod penderfyniad wedi’i wneud i ostwng y dyraniad o’r gyllideb ar gyfer prosiect Twf yn 2016-17 gan £0.2 miliwn. Rydym yn nodi’ch tystiolaeth bod y prosiect yn cael ei ail-gontractio ddiwedd mis Mawrth, ac y bydd hyn yn cynnig cyfle i wneud arbedion effeithlonrwydd o ran gweithrediadau cefn swyddfa heb effeithio’n andwyol ar ddarparu gwasanaethau.

iv.          Pa drefniadau sydd wedi’u gwneud i fesur effaith y gostyngiad yn y gyllideb yn y maes hwn, o ystyried eich datganiad na fydd gostyngiad o’r fath yn arwain at gwtogi ar lefel y gwasanaeth?

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Rydym yn croesawu’r gwaith a wnaethpwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) i ehangu’r ystod o bynciau addysg uwch y gellir eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn pryderu, fodd bynnag, am effaith y gostyngiad o £20 miliwn yn y cyllid sydd ar gael i CCAUC ei ddyrannu i sefydliadau addysg uwch, a’r effaith bosibl ar y CCC a’i allu i barhau â’r gwaith hwn.

Yn ystod ein cyfarfod, clywsom gan eich swyddog y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi arweiniad cryf i CCAUC drwy’r llythyr cylch gwaith, gan annog CCAUC i barhau i flaenoriaethu cyllid ar gyfer y CCC. Fodd bynnag, clywsom hefyd mai penderfyniad i CCAUC fyddai hynny yn y pen draw. 

v.            Hoffwn gael sicrwydd gennych y bydd yr arweiniad hwn yn cynnwys datganiad cryf na ddylai penderfyniadau cyllido a wneir gan CCAUC yn y dyfodol gael effaith anghymesur ar y Gymraeg. 

Dechrau’n Deg

Yn ystod ein cyfarfod, gwnaethom drafod yn fyr pa mor ddigonol yw’r ddarpariaeth o ran cynllun Dechrau’n Deg drwy gyfrwng y Gymraeg i fwydo i mewn i ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae’n ymddangos i fod yn fwy tebygol y bydd plant sy’n cael mynediad at gynlluniau Dechrau’n Deg drwy gyfrwng Cymraeg yn parhau â’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a thrwy hynny gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o sicrhau iaith ffyniannus a chymdeithas naturiol ddwyieithog.

Gyda hynny mewn golwg, byddem yn ddiolchgar i gael manylion am y camau penodol a gymerir gan Lywodraeth Cymru i werthuso—

vi.          a oes digon o leoedd Dechrau’n Deg drwy gyfrwng Cymraeg i ateb y galw, ac

vii.         a yw’r ddarpariaeth Dechrau’n Deg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddigonol ar hyn o bryd i alluogi Llywodraeth i gyflawni ei hamcanion ei hun ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg mewn grwpiau oedran hŷn.

6. Cyngor Llyfrau Cymru

Yn ystod y cyfarfod, gwnaethom drafod ein pryderon ynghylch effaith y gostyngiadau arfaethedig o 10.6% yng nghyllideb Cyngor Llyfrau Cymru ar y Gymraeg. Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn ddiweddar na fydd cyllid ar gyfer y Cyngor yn cael ei ostwng yn y gyllideb ddrafft.

Yn gywir

Christine Chapman AC
Cadeirydd

Copi at: Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid; Ann Jones AC, Cadeirydd y  Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg



[1] Neu gynnydd o £94.3 miliwn o’i gymharu â’r gyllideb atodol gyntaf ar gyfer 2015-16

[2] Terfynnau Gwariant Adrannol refeniw a chyfalaf